Pennod 1: Cyd-destun Polisi Cymdeithasol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru - Hefin Gwilym
Amcanion y bennod
- Cynnig braslun o ddatblygiadau polisi cymdeithasol ers datganoli yn 1999.
- Bwrw golwg dros ddatblygiadau deddfwriaethol a pholisi cymdeithasol allweddol.
- Ymdrin â’r newidiadau polisi allweddol o ran ymarfer gwaith cymdeithasol.
Rhagarweiniad
Mae’r bennod hon yn ymwneud â’r datblygiadau allweddol yn sgil datganoli sydd wedi creu cyd-destun polisi cymdeithasol newydd yng Nghymru ers sefydlu’r Senedd (y Cynulliad Cenedlaethol fel y’i galwyd ar y pryd) yn 1999. Bydd yn crynhoi’r camau allweddol yn y broses ddatganoli gan gynnwys y rhesymau pam i Gymru bleidleisio dros ddatganoli yn 1997 a’r datblygiadau allweddol a fu ers hynny gan gynnwys ennill y gallu i ddeddfu. Wedyn bydd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd datblygiadau polisi a deddfwriaeth allweddol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy’n ymarfer yng Nghymru gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae cyd-destun ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru wedi newid yn sylweddol yn ystod y cyfnod datganoli. Bydd gweithwyr cymdeithasol sydd ar fin ymddeol heddiw yn cofio cyd-destun gwahanol iawn ar ddechrau eu gyrfa flynyddoedd lawer yn ôl. Mae’r gweithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, yn wahanol i’w ragflaenwyr, yn ymarfer o fewn fframwaith deddfwriaethol a grëwyd yng Nghymru i gwrdd â gofynion pobl Cymru sydd angen gwasanaethau cymdeithasol. Bydd y bennod yn gosod y newidiadau hyn yng nghyd-destun traddodiad gwleidyddol Cymreig sydd wedi meithrin cyfunoliaeth ac ymrwymiad i ddull gweithredu statudol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Y broses ddatganoli a thraddodiad gwleidyddol Cymru
Disgrifiwyd datganoli yng Nghymru fel proses yn hytrach na digwyddiad (gweler y dyfyniadau allweddol isod). Y foment dyngedfennol yn y broses honno oedd y refferendwm ar sefydlu Cynulliad Cymru yn 1997 (Senedd Cymru, 2022). Pleidleisiodd pobl Cymru dros ddatganoli trwy fuddugoliaeth gyfyng gyda chanran isel yn pleidleisio. Hyd at hynny llywodraethwyd Cymru’n ganolog gan San Steffan, a ystyriwyd yn aml yn senedd a oedd yn rhy bell o Gymru lle nad oedd materion Cymreig yn cael sylw priodol. Sefydlwyd y Swyddfa Gymreig fel rhan o’r wladwriaeth ganolog yn yr 1950au a chrëwyd swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1964 (Davies, 2007). Yn y blynyddoedd dilynol bu cyfres o wleidyddion o'r blaid Lafur a’r blaid Geidwadol yn ddeiliaid swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyda rhai o ddeiliaid Ceidwadol y swydd yn cynrychioli etholaethau seneddol yn Lloegr. Yn 1979 bu ymgais aflwyddiannus i sefydlu Cynulliad i Gymru ond pleidleisiodd pobl Cymru yn llethol yn erbyn Deddf Cymru 1978 mewn refferendwm a gynhaliwyd ar ddiwedd Llywodraeth Lafur amhoblogaidd 1974-79. Mae hyn yn codi’r cwestiwn pam y bu i bobl Cymru newid eu meddwl erbyn refferendwm 1997. Roedd y refferendwm yn ymrwymiad maniffesto gan y Llywodraeth Lafur a etholwyd i rym yn 1997 dan arweiniad Tony Blair. Mae’r ateb i’r cwestiwn i’w ganfod yn hanes modern Cymru ac yn arbennig felly o graffu ar effeithiau Llywodraethau Ceidwadol 1979-97, dan arweiniad Margaret Thatcher a John Major, ar gymdeithas ac economi Cymru. Dyma flynyddoedd cau’r glofeydd, dad-ddiwydiannu, a diweithdra yng Nghymru. Profodd cymunedau ddirywiad economaidd wrth i’r diwydiannau traddodiadol gau a chreithiwyd cymunedau dosbarth gweithiol a fu unwaith yn ffynnu (Day, 2010). Dangosodd y cyfnod fregusrwydd cymdeithas ac economi Cymru ac amlygwyd nad oedd gan Gymru bwerau gwleidyddol i amddiffyn ei hun rhag polisïau nad oedd mwyafrif pobl Cymru wedi pleidleisio drostynt.
Mae gan Gymru dreftadaeth wleidyddol gyfoethog sy’n cwmpasu radicaliaeth ac arloesedd (gweler y dyfyniadau allweddol isod). Cyn datganoli roedd Lloyd George wedi cyflwyno’r pensiwn gwladol cyntaf i bobl dros saithdeg yn 1908. Flwyddyn yn ddiweddarach cyflwynodd Gyllideb y Bobl a gododd drethi i fynd i’r afael â thlodi ac aflendid. Ysbrydolwyd Aneurin Bevan gan Gymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar a fu’n batrwm iddo ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlodd yn 1948. Mae nifer o wreiddiau i radicaliaeth gymdeithasol Gymreig, nid lleiaf dylanwad ei chapeli anghydffurfiol a fu’n fwy o ddylanwad na Marcsiaeth ym meysydd glo Cymru (Greenleaf, 1983). Ystyrir Cymru’n eang fel cenedl o gymunedau cryf a ddylanwadwyd gan Anghydffurfiaeth a gwleidyddiaeth sosialaidd.
Y ffordd Gymreig
Mae gan Gymru draddodiad gwleidyddol radical â’i phwyslais ar faterion cymdeithasol a mynd i’r afael ag anfanteision ac anghydraddoldebau economaidd.
Mae pobl Cymru wedi pleidleisio'n gyson, ddegawd ar ôl degawd, dros fwy o aelodau seneddol Llafur nac unrhyw blaid arall. Yn wir, yn y cyfnod ers datganoli mae’r Blaid Lafur wedi arwain pob llywodraeth yn y Senedd ers ei sefydlu. Ar ddim ond dau achlysur mae wedi gorfod rhannu grym mewn llywodraeth glymblaid. Mae nifer o fanteision ac anfanteision i’r lefel hon o gysondeb yn llywodraethiant Cymru. Y brif fantais yw cysondeb o ran cyfeiriad polisi heb y pendilio a welir yn San Steffan. Yr anfantais yw'r perygl i lywodraeth golli ei ymroddiad ynghyd â phroblemau ehangach rheolaeth gan un blaid yng Nghymru. Serch hynny, mae Plaid Lafur Cymru wedi dangos medrusrwydd rhyfeddol yn meithrin a chynnal mesur o annibyniaeth oddi wrth Blaid Lafur y Deyrnas Unedig ac wrth ddatblygu hunaniaeth Gymreig glir. Yn wir, mae gan Blaid Lafur Cymru resymau haeddiannol dros ystyried ei hun yn brif blaid Cymru yn sgil ei hapêl eang. Yn wir, yn ôl un arolwg mae 50% o gefnogwyr annibyniaeth i Gymru yn pleidleisio dros Blaid Lafur Cymru.
Arwyddocâd y broses ddatganoli a ddechreuwyd yn 1999 a gwaddol y traddodiad gwleidyddol Cymreig o waith cymdeithasol yw bod Cymru wedi cadw’r proffesiwn gwaith cymdeithasol yn y sector cyhoeddus (gweler y dyfyniadau allweddol isod). Mae'r dull cyfunolaidd hwn o weithredu gan y wladwriaeth yn wrthgyferbyniad llwyr â Lloegr lle mae'r proffesiwn gwaith cymdeithasol wedi bod yn destun llawer mwy o breifateiddio. Mae’r rhan fwyaf o weithwyr cymdeithasol Cymru yn parhau i weithio i awdurdod lleol. Yn ôl Cyngor Gofal Cymru yn 2016, roedd 76% yn gweithio yn y sector cyhoeddus (Cyngor Gofal Cymru, 2016). Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, yn ôl Social Work England, 48.5% o’r gweithwyr cymdeithasol a oedd ar eu cofrestr yn 2021 oedd yn gyflogedig gan awdurdod lleol yn Lloegr. Ers 1999 sefydlwyd corff o bolisi a deddfwriaeth Gymreig ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol sydd wedi esgor ar ddull gweithredu Cymreig clir a wnelo â phroblemau cymdeithasol. Mae gwaith cymdeithasol yng Nghymru wedi ymdopi â’r newidiadau polisi a deddfwriaethol hyn yn y cyfnod ers datganoli trwy broses o’i ail-lunio ar wedd gwaith cymdeithasol Cymreig.
Y ffordd Gymreig
Mae gwaith cymdeithasol yng Nghymru yn weithgaredd sector y wladwriaeth yn bennaf sy'n adlewyrchu'r ymrwymiad parhaus yng Nghymru i ddarpariaeth gan y sector cyhoeddus.
Galluogodd pasio Deddf Cymru 2006 i Gynulliad Cymru geisio pwerau gan lywodraeth y Deyrnas Unedig i basio deddfau yng Nghymru am y tro cyntaf mewn hanes modern. Cynyddwyd y pwerau hynny yn dilyn refferendwm arall yn 2011 a ganiataodd i Gymru ddrafftio deddfau mewn meysydd datganoledig heb orfod ceisio caniatâd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Cymeradwyodd y refferendwm roi pwerau deddfwriaethol llawn i Gymru gyda 63.5% o’r nifer a bleidleisiodd o blaid er mai canran isel iawn o etholwyr Cymru a bleidleisiodd, dim ond 35%. Pasiwyd Deddf Cymru arall yn 2014 yn rhoi pwerau codi trethi i Gymru mewn rhai meysydd gan gynnwys y gallu i amrywio treth incwm yng Nghymru o ddeg ceiniog ym mhob punt, pŵer na ddefnyddiwyd mohono hyd yma ond a allai gael ei ddefnyddio yn y dyfodol i geisio mynd i’r afael â phroblemau cronig tlodi yng Nghymru. Y newid cyfansoddiadol mwyaf diweddar yng Nghymru oedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a newidiodd enw’r Cynulliad i’r Senedd neu Senedd Cymru a gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru i un ar bymtheg. Mae’r newidiadau cyfansoddiadol hyn wedi galluogi Cymru i ddeddfu ym meysydd polisi cymdeithasol a thrwy hynny wedi creu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Bydd dwy adran nesaf y bennod hon yn archwilio rhai o'r meysydd deddfwriaethol a pholisi cymdeithasol allweddol hynny.
Dyfyniadau allweddol o gyfnod datganoli
Mae datganoli yn broses. Nid yw’n ddigwyddiad nac ychwaith yn siwrnai â diweddbwynt penodedig. Mae’r broses ddatganoli yn ein galluogi i wneud ein penderfyniadau ein hunain a gosod ein blaenoriaethau ein hunain, dyna’r pwynt pwysig. Byddwn yn rhoi prawf ar ein cyfansoddiad trwy brofiad ac yn gwneud hynny mewn ffordd bragmataidd yn hytrach nag mewn ffordd a yrrir gan ideoleg'. (Y Gwir Anrhydeddus Ron Davies, 1988, Ysgrifennydd Gwladol Cymru).
'Rwyf am droi yn awr at fy ail brif thema, llwyddiannau polisi cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru ac, yn benodol, yr egwyddorion a fu’n sylfaen i’n camau gweithredu yn y maes hwn. Wrth wneud hynny, hoffwn ddweud ychydig mwy am fater gwahanolrwydd, yr hyn a elwid, yng ngeiriau anochel y Guardian, yn 'ddŵr coch clir' ac a ddaeth i’r amlwg dros gyfnod fy ngweinyddiaeth rhwng y ffordd o lunio pethau yng Nghymru a’r cyfeiriad a ddilynwyd yn San Steffan ar gyfer gwasanaethau cyfatebol. Bydd y ffawtlinau ideolegol hynny o ran dulliau gweithredu ar les cymdeithasol sy’n nodwedd o bolisi cymdeithasol ym Mhrydain ers yr ail ryfel byd o hyd yn parhau - rhwng rhoi’r un manteision i bawb yn hytrach na chyflwyno profion modd, a rhwng mynd ar drywydd tegwch yn hytrach na thrywydd dewis defnyddwyr'. (Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, 2002, Prif Weinidog Cymru).
‘Fel rhywun sydd wedi bod yn ddigon ffodus i chwarae rhan ym mhob Llywodraeth Cymru, rwy’n credu mai’r llinyn cryfaf o ran llunio polisi cymdeithasol fu cryfder y traddodiad mawr radical Cymreig: ffydd yng ngallu llywodraeth i lunio atebion sy’n ymestyn dyfnaf i fywydau’r rheiny sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf'. (Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, 2021, Prif Weinidog Cymru),
Datblygiad polisi cymdeithasol Cymreig
Yn sgil ennill mwy o bwerau i Gynulliad Cymru, yn enwedig pwerau deddfu, cafwyd cyfnod o ystyriaeth ynghylch darpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Yn 2007 lluniodd Llywodraeth Cymru strategaeth newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol o’r enw Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol: Strategaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru dros y Degawd Nesaf. Sefydlodd y strategaeth lwybr tuag at foderneiddio gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru gan adlewyrchu proses debyg oedd ar waith yn Lloegr. Byddai pwyslais newydd ar bartneriaethau a chydweithio rhwng asiantaethau. Byddai cysondeb safonau yn cael ei feithrin ar draws Cymru a byddai gwasanaethau'n gynaliadwy ac yn gost-effeithiol. Cydnabu’r strategaeth y cynnydd yn y boblogaeth sy’n heneiddio yng Nghymru a’r gofyniad i wasanaethau cymdeithasol wneud mwy â’r un maint o adnoddau neu hyd yn oed llai. Ystyriwyd mai comisiynu ac ailfodelu gwasanaethau’n seiliedig ar bartneriaethau rhwng y sector statudol, y sector gwirfoddol a’r sector preifat fyddai’r dull gorau ac y byddai hyn yn arwain at fwy o effeithlonrwydd a gwell gwerth am arian.
Y ffordd Gymreig
Mae polisi cymdeithasol Cymru yn pwysleisio partneriaeth, cydweithio a chynaliadwyedd.
Mewn hinsawdd ariannol fwy llem yn dilyn argyfwng gwasgfa gredyd 2008 a dechrau cyfnod o lymder, sefydlodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru i fynd i’r afael â sut i gyflwyno gwasanaethau cymdeithasol mewn oes newydd, ac fe adroddodd yn 2010. Yn ei adroddiad, Gweithredu’r Weledigaeth, cydnabu’r Comisiwn fod y rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus yn llwm ac y byddai angen cynyddu effeithlonrwydd. Cefnogai’r adroddiad nodau Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol, ond dymunai weld cyflymu’r broses o foderneiddio ynghyd â gwelliannau i gynllunio, comisiynu a chydweithredu. Byddai darparwyr preifat a gwirfoddol yn cymryd mwy o ran mewn cynllunio, dylunio a chomisiynu gwasanaethau a gwelwyd newid cyfeiriad tuag at breifateiddio.
Daethpwyd ag argymhellion yr adroddiadau uchod ac adroddiadau eraill o ran y gweithlu gofal cymdeithasol a diogelu ynghyd mewn un ddogfen yn 2011, Papur Gwyn cyn y broses ddeddfu o’r enw Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu. Roedd y cyd-destun yr un fath – cynlluniau uchelgeisiol mewn cyfnod economaidd anodd. Felly, roedd thema moderneiddio yn hollbresennol ynghyd â’r nod o wneud mwy gyda llai o adnoddau. Y prif gyfrwng ar gyfer cynnydd fyddai cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth a hynny o fewn gwasanaeth gofal integredig. Yn gefnlen i hynny roedd cymdeithas oedd yn heneiddio, amrywiaeth mathau o deuluoedd, a galwadau cynyddol ar wasanaethau cymdeithasol. Ystyriwyd mai’r dewis oedd rhwng cwtogi ac adnewyddu, neu rhwng parhau yn ôl yr arfer a chymryd camau’n ôl neu foderneiddio trwy gydweithredu ac arloesi. Byddai mwy o gydweithredu a chomisiynu ar lefel ranbarthol a gwasanaethau cyd-gysylltiedig i wrthbwyso’r sefyllfa anffodus o ddau awdurdod lleol ar hugain trwy Gymru oedd yn aml yn dyblygu eu tasgau ac yn afradloni costau. Sefydlodd y Papur Gwyn gyd-destun ar gyfer deddfwriaeth Gymreig ym maes gofal cymdeithasol, sef testun adran nesaf y bennod hon.
Ar adeg ysgrifennu hyn, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer mynd i’r afael â’r hyn a gydnabyddir yn argyfwng gofal cymdeithasol – sef darparu gofal teilwng ac urddasol i bobl mewn oed am gostau sy’n fforddiadwy i’r wladwriaeth ac i’r unigolyn. Y prif adroddiad yn y maes hwn yw Adroddiad Dilnot yn Lloegr (2011) a argymhellodd na ddylai unrhyw un dalu mwy na £35,000 am ofal ar hyd rhychwant eu hoes ac y gellid diogelu asedau hyd at £100,000. Byddai hyn yn rhoi sicrwydd mewn henaint rhag colli cynilion a cholli tŷ i dalu am gostau gofal cymdeithasol megis gofal preswyl. Mae'r cynigion sydd gerbron ar adeg ysgrifennu yn llawer llai hael na chynigion Dilnot ac yn golygu diogelu asedau hyd at £86,000 yn Lloegr. Roedd y cynigion o’r cychwyn cyntaf yn mynd i fod ar sail profion modd ac mae peidio â dilyn yr egwyddor o roi’r un manteision i bawb wedi achosi rhaniadau, gyda chynilwyr a rhai a fu’n ennill cyflog gydol eu hoes yn teimlo eu bod yn dioddef anfantais o’u cymharu â'r rheiny oedd yn eu barn nhw heb gynilo at eu dyfodol. Serch hynny, aethpwyd i’r afael â’r mater ar ôl blynyddoedd o’i osgoi a chadarnhawyd yr egwyddor o dalu am ofal cymdeithasol trwy godi treth incwm.
Mae Mentrau Polisi Cymdeithasol Allweddol eraill yng Nghymru yn cynnwys Cynllun Oes (2005), dogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru a gyflwynodd strategaeth ddeng mlynedd ar gyfer gwella iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Roedd y pwyslais ar ail-gloriannu gwasanaethau tuag at y gymuned ac fe’i lluniwyd gyda defnyddwyr gwasanaeth mewn golwg. Creu'r Cysylltiadau: Cyflawni Ar Draws Ffiniau (2006), ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adolygiad Syr Jeremy Beecham o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn 2006. Nod yr adroddiad yw trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru trwy well effeithlonrwydd, hyfforddiant a phartneriaeth, a thrwy welliannau i berfformiad sydd â'r dinesydd yn ganolog. Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn 2013-23 (2013), strategaeth i gwrdd ag anghenion pobl mewn oed o ran bywyd teuluol a chymunedol, ac i ddylanwadu ar benderfyniadau. Mae’r strategaeth yn ailddatgan yr egwyddor o lesiant fel synnwyr o bwrpas ac o reoli eich bywyd eich hun. Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, yr hyn a wnawn i wella’r gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth i ofalwyr di-dâl (2021), adnewyddu cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl. Mae’n cefnogi hawliau gofalwyr gan gynnwys yr hawl i asesiad.
Deddfwriaeth Gymreig allweddol
Fel y crybwyllwyd eisoes cafodd y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru ei ddiffinio gan ddau ddarn o ddeddfwriaeth Gymreig o sylwedd, sef Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ddwy ddeddf ar y cyd yn cwmpasu ac yn hyrwyddo gwerthoedd ac egwyddorion polisi cymdeithasol Llywodraeth Cymru y gellir eu diffinio’n fras fel rhai cyfunolaidd a democrataidd gymdeithasol gydag ymrwymiad i rôl gadarnhaol gan y wladwriaeth a’r sector cyhoeddus. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi swyddogaethau adrannau gwasanaethau cymdeithasol lleol yng Nghymru a rôl lywodraethu gweinidogion Llywodraeth Cymru. Mae’r ddeddf yn berthnasol i oedolion a phlant a dyma’r brif ddeddfwriaeth yng Nghymru ar gyfer diogelu ac ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Mae’n nodi’r ddyletswydd i asesu, a diffinnir yr egwyddor o hyrwyddo llesiant yn y ddeddf fel datblygiad personol iach, diogelwch llety a bywyd teuluol, mynediad at addysg a hyfforddiant a’r hawl i gyfrannu i gymdeithas. Adlewyrchir gwerthoedd y ddeddf yn ei hymrwymiad i gefnogi gweithio mewn partneriaeth a hawliau unigol. Nid yw’r ddeddf serch hynny’n gwneud unrhyw ymdrech i wrthdroi elfennau o breifateiddio a gyflwynwyd cyn datganoli gan gynnwys taliadau uniongyrchol a’r ddyletswydd i gynnal asesiad ariannol a chodi tâl am wasanaethau.
Tabl 1.1. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Rhan 1, Rhagarweiniad, Termau Allweddol
Ystyr “llesiant” (1) Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben y Ddeddf hon. (2) Ystyr “llesiant”, mewn perthynas â pherson, yw llesiant mewn perthynas ag unrhyw un o’r canlynol— (a) iechyd corfforol a meddyliol a lles emosiynol; (b) amddiffyniad rhag camdriniaeth ac esgeulustod; (c) addysg, hyfforddiant a hamdden; (d) perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol; (e) cyfraniad a wneir i gymdeithas; (f) sicrhau hawliau a hawlogaeth; (g) lles cymdeithasol ac economaidd; (h) addasrwydd lle byw. (3) Mewn perthynas â phlentyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys— (a) datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol; (b) “lles” fel y dehonglir y gair hwnnw at ddibenion Deddf Plant 1989. (4) Mewn perthynas ag oedolyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys— (a) rheolaeth dros fywyd beunyddiol; (b) cyfranogiad mewn gwaith. |
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei hedmygu’n eang fel darn o ddeddfwriaeth arloesol a blaengar. Mae’n ymgorffori’r egwyddor o ddatblygiad cynaliadwy ac yn sefydlu swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Mae’r ddeddf yn gosod nodau llesiant ar gyfer Cymru, sef Cymru lewyrchus, gydnerth, iachach, mwy cyfartal, gyda chymunedau cydlynol, diwylliant bywiog, ac sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Mae’r ddeddf yn diffinio’r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy fel dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i weithredu mewn modd nad yw’n cyfaddawdu buddiannau cenedlaethau’r dyfodol trwy gwrdd ag anghenion y genhedlaeth bresennol. Gellir ystyried y ddau ddarn yma o ddeddfwriaeth fel fframweithiau deddfwriaethol sy’n gosod cyd-destun deddfwriaethol a phroffesiynol i ymarfer gwaith cymdeithasol proffesiynol yng Nghymru.
Tabl 1.2 Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Rhan Dau Gwella Llesiant, Datblygu Cynaliadwy a Dyletswydd Llesiant ar Gyrff Cyhoeddus
4. Y Nodau Llesiant Cymru lewyrchus | Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy'n cydnabod cyfyngiadau'r amgylchedd byd-eang ac felly'n defnyddio adnoddau'n effeithlon ac yn gymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy'n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy'n creu cyfoeth ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy sicrhau gwaith o safon. |
Cymru gydnerth | Cenedl sy'n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau gweithredol iach sy'n cefnogi gwydnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a'r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd). |
Cymru iachach | Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosib ac sy'n deall dewisiadau ac ymddygiad a fydd o fudd i iechyd yn y dyfodol. |
Cymru sy’n fwy cyfartal | Cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau (yn cynnwys eu cefndir ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol). |
Cymru o gymunedau cydlynus | Cymunedau deniadol, hyfyw, diogel ac wedi eu cysylltu'n dda. |
Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu | Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a'r Gymraeg, ac sy'n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden. |
Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang. | Cenedl sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a all hynny wneud cyfraniad cadarnhaol at les byd-eang. |
Mae’r tabl canlynol yn nodi deddfwriaeth Gymreig bellach sydd o bwys i faes gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
Tabl 1.3 Deddfwriaeth (Polisi Cymdeithasol) Gymreig Allweddol Bellach
Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 | Sefydlwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, mae’r ddeddf hon yn cyflwyno gwelliannau i ddeddf 2000 ac yn diffinio pwrpas a chylch gorchwyl rôl y Comisiynydd yn hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru. |
Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 | Hyrwyddo a diogelu buddiannau pobl hŷn yng Nghymru gan gynnwys herio gwahaniaethu a chadarnhau arferion gorau. |
Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 | Sefydlwyd y Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd drwyddo. Roedd yn cynnwys cynlluniau uchelgeisiol i ddileu tlodi plant yng Nghymru erbyn 2020. Mae meysydd eraill a gwmpesir gan y mesur yn cynnwys gofal dydd a chyfrannu at wneud penderfyniadau awdurdodau lleol. |
Mesur Tai (Cymru) 2011 | Atal yr hawl i brynu yng Nghymru. |
Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 | Fe’i gwnaeth yn ddyletswydd ar weithwyr cymdeithasol i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Golygai’r mesur fod Cymru ar flaen y gad o ran hawliau plant. |
Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 | Cyflwynodd y cysyniad o gydsyniad tybiedig yn achos trawsblannu organau er mwyn ymdrin â’r prinder cronig o organau a oedd yn cael eu rhoi i'w trawsblannu yng Nghymru. |
Deddf Tai (Cymru) 2014 | Deddfwriaeth o bwys a oedd yn mynd i’r afael â digartrefedd ac atal digartrefedd yng Nghymru. |
Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 | Sefydlwyd Gofal Cymru fel sefydliad pwerus i reoleiddio gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ddisodli Cyngor Gofal Cymru, yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Cymru. |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 | yflwynodd isafbris am uned o alcohol yng Nghymru i fynd i’r afael â phrisiau rhad diodydd alcoholaidd mewn archfarchnadoedd. Roedd yn ymateb i bryder ynghylch yfed niweidiol a chostau rhad diodydd alcoholaidd cryf. |
Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 | Diogelu stoc tai cymdeithasol Cymru a helpu i fynd i'r afael â phroblem ddigartrefedd gronig yng Nghymru. |
Heriau Allweddol
O roi cyd-destun i’r datblygiadau deddfwriaethol a pholisi yn dilyn datganoli gellir eu gweld fel ymateb i rai o’r problemau cymdeithasol ac economaidd mwyaf sefydledig a hirdymor a wynebir gan Gymru. Mae economi Cymru yn tanberfformio’n gyson o’i gymharu ag economi ehangach y Deyrnas Unedig ac economïau gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’r rhan fwyaf o ranbarthau Lloegr. Mae lefelau cynhyrchu yng Nghymru ymhell islaw lefelau creu cyfoeth y Deyrnas Unedig. Am bob awr a weithiwyd, cynhyrchodd Cymru ar gyfartaledd 4.4% yn llai na phob rhan arall o’r Deyrnas Unedig ac eithrio Gogledd Iwerddon a berfformiodd 9.6% yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2019). Nid oes gan Gymru ddigon o ddiwydiannau canolig eu maint ac mae'n rhy ddibynnol ar fusnesau bychain. Fel mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ceir dibyniaeth fawr ar gyflogaeth dymhorol a chyflogau isel. Disodlwyd tirwedd o ddiwydiannau traddodiadol gan ansicrwydd gwaith am gyflog isel mewn archfarchnadoedd a chanolfannau galwadau. Mae effeithiau ôl-ddiwydiannu wedi creithio cymdeithas Cymru gan gynnwys trwy afiechyd cronig. Nid yw ei seilwaith trafnidiaeth gwan o gefnffyrdd annigonol a chysylltiadau rheilffordd gwael o ddim cymorth i’w phroblemau economaidd.
Y ffordd Gymreig
Mae Cymru wedi mabwysiadu dull cyfunolaidd a sector cyhoeddus o fynd i’r afael â phroblemau hir-sefydlog o dlodi ac anfantais y bydd pob gweithiwr cymdeithasol wedi dod ar eu traws.
Mae gan Gymru broblem gronig o dlodi ac un a ymddengys yn anhydrin gan iddi barhau ar yr un lefel am genhedlaeth er gwaethaf polisïau blaenllaw i fynd i’r afael â hi, gan gynnwys y fenter Cymunedau yn Gyntaf a roddwyd o’r neilltu. Diffinnir tlodi cymharol fel byw o dan 60% o’r canolrif incwm aelwydydd, neu o dan y llinell dlodi. Yng Nghymru mae 23% o'r boblogaeth yn byw yn y sefyllfa drist hon. Mewn cymhariaeth y ffigwr yn Lloegr yw 22%, ac mae’n 19% yn achos yr Alban ac yn 18% yng Ngogledd Iwerddon. Mae’n arwyddocaol fod 22% o’r oedolion sy'n gweithio yng Nghymru yn byw mewn tlodi, sy'n adlewyrchu'r lefel uchel o dlodi o fewn gwaith yn sgil cyflogau isel. Mae plant sy'n byw yn yr aelwydydd tlawd hyn yn cyfrif am 31% o'r plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Ar adeg ysgrifennu mae economi Cymru yn ymdopi â sioc economaidd Brexit ac effeithiau pandemig Covid 19 a’r cyfnodau clo ac yn sgil hynny bydd nifer y bobl a’r plant sy’n byw mewn tlodi yn cynyddu hyd y gellir rhagweld. Cyfran y plant sy'n byw mewn tlodi yn Lloegr mewn cymhariaeth yw 30%; yn yr Alban a Gogledd Iwerddon mae'n 24%. Nid mater o ddata yn unig yw tlodi, dyma brofiad yr oedolion a’r plant hyn o fyw. Yn ddi-ffael bydd yn cyd-fynd â thai gwael, cyrhaeddiad addysgol is, mwy o afiechyd, a rhychwant oes byrrach. Mae straen seico-gymdeithasol ac yn aml stigma yn gysylltiedig â defnyddio banciau bwyd – ac mae’r defnydd ohonynt wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y cyfnodau clo (Beck a Gwilym, 2021). Y tu hwnt i ddinasoedd ac ardaloedd trefol y de mae problemau gwirioneddol o dlodi gwledig gan gynnwys tlodi gwledig difrifol mewn rhannau anghysbell o Bowys lle mae cadw car yn hanfodol oherwydd trafnidiaeth gyhoeddus wan. Ond mae lle i fod yn optimistaidd ynglŷn â melltith tlodi pensiynwyr yng Nghymru. Yn ddiweddar mae wedi bod yn gostwng oherwydd mentrau gan lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu pensiynwyr gan gynnwys y clo triphlyg. Mae lefel tlodi pensiynwyr yng Nghymru wedi gostwng i 18% yn sgil y mesurau hyn ac eraill.
Dechreuodd cyfnod y llymder yn dilyn argyfwng gwasgfa gredyd 2008 pan wnaeth economi’r byd grebachu’n ddifrifol o ganlyniad i ganiatáu morgeisi eilaidd anghyfrifol, yn arbennig felly yn yr Unol Daleithiau ac, yn arwyddocaol, anallu pobl gyffredin i’w talu’n ôl. Arweiniodd at gwymp banciau ac at achub rhai eraill gan y wladwriaeth gan gynnwys y Royal Bank of Scotland a wladolwyd, a Banc Lloyds a achubwyd gan becynnau enfawr o gymorth ariannol gan y wladwriaeth. Yn 2012 pasiodd llywodraeth y Deyrnas Unedig y Ddeddf Diwygio Lles, deddfwriaeth fwyaf canolog cyfnod y llymder. Cyflwynwyd Credyd Cynhwysol a’r Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) gan ddisodli budd-daliadau traddodiadol a chredydau treth i bobl o oedran gweithio gan gynnwys disodli’r Lwfans Byw i’r Anabl. Bwriad y ddeddf oedd symleiddio’r system fudd-daliadau a’i gwneud yn haws i bobl symud o fudd-daliadau i waith. Serch hynny, fe gyflwynwyd cap ar fudd-daliadau hefyd a chyfyngu ar fudd-dal tai trwy’r hyn a fedyddiwyd yn 'dreth ystafell wely'. Effaith gyffredinol y llymder fu cynyddu tlodi ac ansicrwydd cymdeithasol ymhlith pobl o oedran gweithio er mwyn ceisio gostwng y diffyg cyllidol cenedlaethol a dychwelyd at gyllideb gytbwys erbyn canol y 2020au. Yn ôl Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin arweiniodd y crebachiad yn haelioni’r system nawdd cymdeithasol at arbedion o £26 biliwn drwy’r Deyrnas Unedig rhwng 2010 a 2016/17, 10% o’r hyn a fyddid fod wedi’i wario heb unrhyw doriadau (Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin, 2021). Gwnaed y rhan fwyaf o’r arbedion trwy fesurau a gymerwyd gan y llywodraeth i gwtogi’n sylweddol ar fudd-daliadau oed gweithio. Mae Nawdd Cymdeithasol yn dal i fod yn uchelfraint polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phroblemau sy’n deillio o ddirywiad economaidd a thlodi.
Negeseuon ar gyfer ymarfer
- Mae angen i weithwyr cymdeithasol sy’n ymarfer yng Nghymru fod yn ymwybodol o’r fframwaith polisi cymdeithasol a’r ddeddfwriaeth polisi cymdeithasol a grëwyd ers sefydlu Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn flaenorol) yn 1999.
- Mae'r dirwedd yn wahanol iawn i Loegr ac mae polisi a deddfwriaeth a luniwyd yng Nghymru wedi’u llywio gan ddull gweithredu cymdeithasol-gyfunolaidd o ddarparu gwasanaethau gwaith cymdeithasol yn y sector cyhoeddus. Yng Nghymru mae gwerthoedd partneriaeth a chydweithio yn bwysig yng nghyd-destun cynaliadwyedd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
- Ar adeg ysgrifennu, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, a fydd am ddim pan fydd ei angen. Er bod cyfyngiadau ar bwerau Senedd Cymru, yn enwedig o ran mynd i’r afael â thlodi ac yn y maes cyfreithiol, nodir mai proses ac nid digwyddiad yw datganoli ac mae mwy o bwerau’n siŵr o ddilyn a chaiff y dull Cymreig o ddarparu gwaith cymdeithasol ei hyrwyddo ymhellach yn y dyfodol. Er enghraifft, mae pwysau i ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol a’r system nawdd cymdeithasol i Gymru a fyddai’n cynyddu pwerau’r Senedd. Byddai refferendwm annibyniaeth arall yn yr Alban yn cael ei wylio’n agos a gallai arwain at gryfhau’r mudiad dros annibyniaeth sydd ar dwf yng Nghymru. Mae’r potensial yno felly i weld cynnydd parhaus mewn ymarfer gwaith cymdeithasol sy'n nodweddiadol Gymreig.
Casgliad
Mae Cymru wedi newid yn fawr oherwydd y datblygiadau a fu yn sgil datganoli ers 1999. Gall ddeddfu a datblygu ei pholisi cymdeithasol Cymreig ei hun. Mae ganddi bwerau codi treth incwm y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â'u defnyddio hyd yma. Nid yw'r datblygiadau wedi newid ei hymrwymiad i ddull gweithredu cyfunolaidd mewn polisi cymdeithasol gyda rôl ganolog i'r wladwriaeth a gwasanaethau cyhoeddus. Er gwaethaf ymdrechion i foderneiddio mewn cyfnod economaidd anodd, yn wahanol i Loegr nid yw Cymru’n gyffredinol wedi mynd ar drywydd preifateiddio gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r ddeddfwriaeth a’r polisïau sydd yn eu lle yn rhai hirdymor ac wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r heriau a fydd yn wynebu Cymru yn y dyfodol. Eu nod yw gosod y sylfeini ar gyfer Cymru well a mwy cynaliadwy. Ond mae'r heriau'n parhau i fod yn rhai sylweddol a bydd angen gweledigaeth a phenderfyniad i'w goresgyn. Bydd ymarfer y proffesiwn gwaith cymdeithasol yn parhau o fewn amgylchedd economaidd-gymdeithasol ansicr iawn hyd y gellir rhagweld oherwydd y storm berffaith a grëwyd gan ansicrwydd ynghylch Brexit, effeithiau economaidd Covid a’r cyfnodau clo, y gost a’r gofynion cynyddol ar ofal cymdeithasol, a phroblem anhydrin tlodi yng Nghymru. Bydd gan waith cymdeithasol rôl bwysig iawn i'w chwarae yn cefnogi pobl a chymunedau drwy'r cyfnod anodd hwn ac wrth adeiladu Cymru well ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Adnoddau pellach
1. Davies, J. (2007) Hanes Cymru Penguin.
2. Day, G. (2010) Making Sense of Wales, A Sociological Perspective. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
3. Gwilym H. a Williams C (2021) Social Policy for Welfare Practice in Wales. Birmingham: British Association of Social Workers.
Cyfeiriadau
Beck, D a Gwilym H. (2021) ‘The Food Bank: A Safety-net in Place of Welfare Security in Times of Austerity and the Covid-19 Crisis’, Social Policy and Society, Online First, 1-17.
Cyngor Gofal Cymru (2016) ‘The Profile of Social Workers in Wales 2016, A Report from the Care Council for Wales Register of Social Care Workers’, Caerdydd, Cyngor Gofal Cymru.
Comisiwn ar Gyllido Gofal a Chymorth. (2011) ‘Fairer Care Funding, The Report of the Commission of Funding of Care and Support’. https://webarchive.nationalarchives.gov.uk/ukgwa/20130221121529mp_/ https://www.wp.dh.gov.uk/carecommission/files/2011/07/Fairer-Care-Funding-Report.pdf [cyfeirir ato fel adroddiad Dilnot]
Davies, J. (2007) Hanes Cymru Penguin
Day, G. (2010) Making Sense of Wales, A Sociological Perspective. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Greenleaf, W.H. (1983) The British Political Tradition, Vol1, The Rise of Collectivism. Methuen.
Gwilym H. a Williams C (2021) Social Policy for Welfare Practice in Wales. Birmingham: British Association of Social Workers.
Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin (2021), Papur Briffio, Rhif CBP 7667, 26 Gorffennaf 2016, Welfare Savings 2010-11 to 2020-21.
Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru (2010) ‘Gweithredu’r Weledigaeth, Adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.’ Caerdydd, y Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.
Keen, R. (2021) ‘Welfare Savings 2010/11 to 2020/21, Papur Briffio’, Rhif CBP 7667, 26 Gorffennaf 2016. Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin.
Swyddfa Ystadegau Gwladol (2019) ‘Regional Labour Productivity, Including Industry by Region, Regional output per hour and output per job, and an experimental analysis of the performance of output per hour levels and growth by industry and region UK:2019’. Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Social Work England, gohebiaeth bersonol, 28 Medi 2021.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Llywodraeth Cynulliad Cymru (2005) ‘Cynllun Oes: Creu Iechyd a Gofal Cymdeithasol o'r Radd Flaenaf i Gymru yn yr 21ain Ganrif. Caerdydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Llywodraeth Cynulliad Cymru (2007) ‘Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol - Strategaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru dros y Degawd Nesaf’. Caerdydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Llywodraeth Cynulliad Cymru (2011) ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu’. Caerdydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Llywodraeth Cymru (2013) ‘Byw’n Hirach: Heneiddio’n Dda, Gwneud Cymru yn lle gwych i dyfu’n hen ynddo. Y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru 2013-2023’. Caerdydd, Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru (2021) ‘Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, Yr hyn y byddwn yn ei wneud i wella cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl’. Caerdydd, Llywodraeth Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (2006) ‘Creu'r Cysylltiadau: Cyflawni Ar Draws Ffiniau. Ymateb Cychwynnol Rhagfyr 2006’. Caerdydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Senedd Cymru (2022) 'Hanes Datganoli'. Hanes datganoli yng Nghymru (senedd.cymru)